Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Tachwedd 2023
Amser:
09.31 -
10.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13567
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS John Griffiths AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
1.2 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant, na dirprwyon. Esgusododd Peredur Owen Griffiths ei hun ar gyfer yr eitem olaf.
2.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnig i’r Llywydd y dylai gymryd drosodd y cyfrifoldeb am anfon llythyrau atgoffa at y Cadeiryddion ynghylch y rheolau ar gyfer gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeiryddion y Grwpiau Trawsbleidiol nad ymddengys eu bod wedi bod yn weithredol o gwbl dros y flwyddyn ddiwethaf i gadarnhau eu sefyllfa a gofyn am waith papur sy’n weddill.
2.3. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeiryddion grwpiau a oedd wedi’u cofrestru’n hwyr, i’w hatgoffa o’u dyletswyddau fel Cadeiryddion ac i ofyn am waith papur sy’n weddill.
2.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeiryddion grwpiau nad oeddent wedi cydymffurfio ers dwy flynedd i roi gwybod iddynt y gallant gael eu datgofrestru os na fyddant yn cydymffurfio am drydedd flwyddyn.
2.5 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr holl Aelodau yn eu hatgoffa o’r rheolau ar weithredu Grwpiau Trawsbleidiol yn ogystal â’u cyfrifoldebau fel Cadeiryddion y Grwpiau.
3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd.
3.2 Trafododd y Pwyllgor y rhestr o dystion posibl ar gyfer yr ymchwiliad, a chytunodd arni gyda rhai ychwanegiadau.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y canllawiau diwygiedig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).